Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 10 Ionawr 2017
Amser: 08.30 -
08.46
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC (Cadeirydd) Jane Hutt AC Rhun ap Iorwerth AC Paul Davies AC David J Rowlands AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AC, Y Dirprwy Lywydd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Christopher Warner, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.
Trefnwyd bod 45 munud yn cael ei neilltuo ar gyfer datganiad Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ar yr ymgynghoriad ynghylch Cynllun Gweithredu Strategol Drafft ar gyfer Dementia yng Nghymru, yn hytrach na 30 munud.
Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn gwneud datganiad ar Ffliw Adar (30 munud).
Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon yn gwneud datganiad ar y Gronfa Triniaethau newydd (45 munud).
Byddai'r Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth yn cael ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer ddydd Mercher.
Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 25 Ionawr 2017 –
· Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: ymchwiliadau a gwaith ymgysylltu ar gyfer y dyfodol (30 munud)
Dydd Mercher 1 Chwefror 2017 –
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar ei ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y gaeaf 2016/17 (60 munud)
Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur gan y Llywodraeth ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol mewn perthynas â'r Bil Addysg Uwch ac Ymchwil.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg er mwyn iddo graffu arno. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol erbyn dydd Iau 9 Chwefror 2017 er mwyn i’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol gael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 14 Chwefror 2017.
Nododd y Pwyllgor Busnes lythyr gan y Cwnsler Cyffredinol am ei ymateb i Gomisiwn y Gyfraith ynghylch ei adroddiad ar 'Ffurf a Hygyrchedd y Gyfraith sy'n Gymwys yng Nghymru'.
Yn sgil canfyddiadau Comisiwn y Gyfraith, awgrymodd y Cwnsler Cyffredinol yn ei lythyr ei fod yn fodlon ailddechrau'r broses o gyflwyno gweithdrefn ar gyfer Biliau Cydgrynhoi, a ddechreuwyd gan Lywodraeth Cymru a swyddogion Comisiwn y Cynulliad ym mis Mai 2014.
Nododd y Rheolwyr Busnes eu bod yn fodlon ailddechrau cydweithio ar gynigion ar gyfer diwygio Rheolau Sefydlog i gynnwys gweithdrefn ar gyfer ystyried Biliau Cydgrynhoi ac i ysgrifennu at y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i roi gwybod iddo am eu penderfyniad.
Bu'r Rheolwyr Busnes yn trafod papur yn nodi cynigion ar gyfer diwygio Rheolau Sefydlog ar sail argymhellion yr 'Adolygiad o Drefniadau Deisebau Cyhoeddus' yr oedd y Pwyllgor Deisebau am fwrw ymlaen â hwy. Roedd y Pwyllgor Busnes yn cytuno o ran egwyddor â'r cynigion i ddiwygio Rheolau Sefydlog er mwyn rhoi argymhellion 3 a 4 yn yr adroddiad ar waith, a'r cynigion ar gyfer gweithdrefnau y tu allan i'r Rheolau Sefydlog sy'n ymdrin â deisebau sy'n cyrraedd trothwy penodol o lofnodion.
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor Deisebau er mwyn cael ei farn ar y cynigion.
Gadael y Siambr
Atgoffodd y Llywydd y Rheolwyr Busnes fod disgwyl i Aelodau
sydd wedi cyfrannu at eitem aros yn y Siambr drwy gydol yr eitem ac
y bydd unrhyw Aelodau nad ydynt yn gwneud hynny yn cael eu cosbi yn
y dyfodol.
Datganiadau
Gofynnodd y Llywydd i'r Rheolwyr Busnes annog Aelodau i fod yn gryno wrth ofyn cwestiynau ynglŷn â datganiadau. Caiff llefarwyr siarad am ddwy funud cyn gofyn eu cwestiynau, ond disgwylir i Aelodau ofyn eu cwestiynau yn syth.